Evan ArwynJONESHunodd yn dawel yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, ddydd Llun 10fed Mawrth 2025, yn 76 mlwydd oed, Evan Arwyn Gilfachydwnfawr, Pontrhydfendigaid.
Gŵr gofalus a chariadus Margaret. Tad annwyl Carys, Gaenor a Geraint a thad yng nghyfraith parchus Warren. Dad-cu hoffus a balch Tirion, Gruff a Gethin.
Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys y Santes Fair, Ystrad Fflur ddydd Sadwrn, 29ain o Fawrth am 1 o'r gloch.
Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof os dymunir tuag at Ward Merlin, Ysbyty Glangwili, siecau yn daladwy i 'Cronfeydd Marwolaeth ardal Tregaron', trwy law
Tom Eurfyl Jones a'i fab, Trefnwyr Angladdau, Lleifior, Pentre, Tregaron, Ceredigion, SY25 6NB, Ffôn: (01974) 298500.
Keep me informed of updates